Andanom Ni

Ein Gwaith Gwasanaeth Gwybodaeth Gwnewch eich rhan! Cysylltwch â ni

 

‘Llyffantod ar y Ffordd’

Bob gwanwyn, caiff degau o filoedd o amffibiaid eu lladd gan gerbydau wrth iddynt groesi’r ffordd i ddychwelyd i’r llynnoedd bridio lle cawsant eu silio. Oddi ar 1989, bu Froglife yn gweithio er mwyn atal y lladdfa hon.

Mae Froglife yn cadw cofrestr o safleoedd lle mae llyffantod yn croesi’r ffordd ar gyfer Adran Gludiant y llywodraeth, ac mae cynghorau lleol yn codi arwyddion ffordd i rybuddio gyrwyr i gymryd gofal arbennig o’r llyffantod.

Erbyn hyn ceir dros 600 o groesfannau llyffantod swyddogol ac mae’r nifer yn cynyddu. Mae llawer o safleoedd yng Nghymru nad ydynt wedi eu cofrestru hyd yn hyn, felly os gwyddoch am fan lle mae llyffantod yn croesi’r ffordd, gadewch inni wybod er mwyn inni allu ei ychwanegu at y rhestr o safleoedd cofrestredig.

Gellwch chithau fod o gymorth trwy ymuno â ‘phatrôl llyffantod’ gwirfoddol.  Ceir nifer fawr o’r rhain yng Nghymru - gweithiant ar nosweithiau yn y gwanwyn gan achub llyffantod a’u cludo yn ddiogel ar draws y ffordd. 

Mae rhai grwpiau lleol yn mynd hyd yn oed ymhellach na chodi arwyddion ffordd.  Ymgyrchant i gael ffensys arbennig a thwneli ar gyfer llyffantod dan y ffordd er mwyn i’r amffibiaid allu croesi yn ddiogel.  

Gellir cael rhagor o wybodaeth ar Daflen Rhif 3 Froglife - Amffibiaid a’r Ffordd.  I gael copi anfonwch amlen â’ch cyfeiriad arni ynghyd â dau stamp ail ddosbarth rhydd at Froglife neu cliciwch yma

 

Mae Froglife yn elusen gofrestredig (rhif 1093372) sy’n ymwneud ag amddiffyn a gwarchod amffibiaid ac ymlusgiaid brodorol yn y gwyllt.

 

Produced with support from the Welsh Language Board / Gyda chefnogaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg